Heddlu'n ymchwilio wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddi gael ei tharo gan gar yng Nghastell-nedd.
Cafodd y ddynes ei tharo gan gar Vauxhall Corsa arian ar Ffordd Dyffryn, Bryncoch, Castell-nedd am tua 16:05 ddydd Sadwrn.
Derbyniodd anafiadau difrifol ac mae'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae'r heddlu yn ymchwilio.