O Sol-Ffa i'r Sex Pistols
- Published
'Gwlad y Gân' yw'r bennod ola' yn y gyfres 'Cymru ar Ffilm' ar S4C. Beti George sydd wedi bod yn pori trwy archifau BBC am berlau prin o'r gorffennol:
Y corau a'r traddodiad gwerin
Maen nhw'n eitemau sy'n llawn nostalgia am y dyddie a fu pan roedd Corau â'r Meibion yn ifanc, pan roedd eisteddfodau yn llenwi neuaddau a phafiliynau, a phan roedd y Sol-Ffa yn tra arglwyddiaethu.
Cawn gip ar Gôr Pendyrus yn ymarfer a'r anfarwol Glyn Jones wrthi yn mireinio'r gân yn ei ffordd ddihafal ei hun.
John Davies arweinydd Côr Meibion Treorci wedyn yn cyflwyno'r Sol-Ffa gan egluro bod gan bob nodyn ei nodwedd arbennig.
Mor ddiddorol yw'r sgwrs rhyngddo fe a Glyn Pendyrus ac Emrys Cleaver, gyda Merêd yn cadeirio, am ragoriaethau'r Hen Nodiant a'r Sol-Ffa.
Nansi Richards sy'n cynrychioli'r canu gwerin gyda disgrifiad amheuthun Harri Gwynn o'i chartre' lle'r oedd "y dodrefn yn anadlu'r hen amser" a "phopeth mewn harmoni efo'i oed". Her i'n gohebwyr cyfoes!
Newid cywair
Ond yn y chwedegau fe gamodd canu poblogaidd i gyfeiriad newydd. Gwelwn Meic Stevens ifanc yn gneud record gyda chwmni Dryw yn Abertawe.
Dyma'r dyddie pan roedd Mary Hopkin, oedd ar lyfrau cwmni Cambrian, yn rheoli'r siartiau - ar y brig yn y siartiau Prydeinig, ac yn bedwerydd yn America. Ond fe gafodd ei disodli o frig siartiau'r Cymro gan ryw ddeuawd o'r enw Tony ac Aloma!
Roedd Heddiw yn y man a'r lle pan agorodd Cwmni Sain - Morus Elfryn oedd yr artist cynta' i'w roi ar ddisg y cwmni ym 1975.
Roedd Edward H yn mentro i diroedd newydd.
Ond beth oedd y rheiny o'i gymharu â'r Sex Pistols? Fy mraint i oedd cael gohebu ar eu hymweliad enwog â Chaerffili ym 1976. Am sbort a sbri!
Ac fe saethodd fy street cred i i'r entrychion. Roedd fy mab yn gallu brolio yn yr ysgol drannoeth bod ei fam wedi gweld y Sex Pistols!