Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Conner Marshall

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad

Mae dyn 26 oed wedi ymddangos o flaen Ynadon Pen-y-bont ar gyhuddiad o lofruddio Conner Marshall o'r Barri.

Bu farw'r dyn 18 oed wedi ymosodiad ym Mharc Carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl yn oriau mân ddydd Sul Mawrth 8.

Fe wnaeth David James Braddon gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr.

Bydd yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Fawrth 30.