Llofrudd cwpl o Gymru wedi dianc o'r carchar yn Sbaen
- Cyhoeddwyd

Mae un o'r dynion laddodd cwpl o Langollen yn Sbaen yn 2002 wedi dianc o'r carchar, yn ôl adroddiad gan asiantaeth newyddion Sbaeneg.
Roedd Jorge Real Sierra, gafodd ei garcharu gyda dyn arall am lofruddio Anthony a Linda O'Malley, wedi ei ryddhau dros dro pan aeth ar goll yn ninas Granada.
Roedd Sierra, sy'n wreiddiol o Venezuela, wedi cael caniatad arbennig i adael y carchar am chwe diwrnod.
Y gred yw bod yr heddlu wedi cyhoeddi gwarant i arestio'r dyn 65 oed.
Prynu Tŷ
Roedd Mr a Mrs O'Malley yn chwilio am dŷ i'w brynu yn Sbaen pan wnaeth Sierra a'i frawd yng nghyfraith, Juan Antonio Velazquez Gonzalez, eu denu i dŷ mawr ger Benidorm a'u cipio, dwyn eu harian a'u lladd.
Cafodd Mr O'Malley, 42, ei dagu, tra bod ei wraig, 55, wedi marw o sioc. Cafodd y ddau eu claddu yn selar y tŷ.
Cafodd y dynion eu dal ar ôl iddyn nhw ddweud wrth deulu'r cwpl eu bod yn fyw, a mynnu arian i'w rhyddhau.