Llofruddiaeth Caerdydd: Estraddodi dyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd o dan amheuaeth o lofruddio dynes mewn gwesty yng Nghaerdydd yn debygol o gael ei estraddodi o Tanzania i Brydain cyn diwedd y mis.
Fe wnaeth Sammy Almahri, 44, deithio i ddwyrain Affrica wedi i gorff Nadine Aburas, 28, gael ei ddarganfod yng Ngwesty'r Future Inn ym Mae Caerdydd ar Nos Galan y llynedd.
Daeth yr awdurdodau o hyd i Almahri mewn coedwigoedd ger dinas Iringa yn Nhanzania. Cafodd ei arestio a'i gludo i lys yn Dar-es-Salaam, lle cafodd cais i'w estraddodi ei wneud gan heddlu Prydain.
Estraddodi
Ni wnaeth Almahri wrthwynebu'r cais i'w estraddodi, ac mae disgwyl iddo gael ei gludo yn ôl i Brydain yn ystod y deng niwrnod nesaf.
Fe ddechreuodd Sammy Almahri berthynas gyda Nadine Aburas ar ôl cyfarfod ar y we - ac fe ddaeth i Gymru i fod gyda hi ar Nos Galan, ac i gyfarfod ei theulu. Roedd y ddau wedi bod mewn perthynas dros y we ers tair blynedd.
Wedi i'r awdurdodau ddarganfod corff Nadine yn y gwesty, bu heddluoedd o Brydain, yr UDA a dwyrain Affrica yn chwilio am Almahri.