Y Gwasanaeth Ambiwlans yn gwario mwy ar dacsis

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,
Gwariodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bron i £270,000 ar dacsis yn 11 mis cyntaf 2014

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law'r BBC yn dangos fod gwariant ar dacsis i gludo cleifion i ysbytai wedi tyfu bron i 50% yn 2014.

Gwariodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru £269,653.13 ar dacsis yn 11 mis cyntaf 2014, o'i gymharu â £181,331.10 yn 2013 - sef cynnydd o bron i £90,000.

Ym mis Awst y llynedd cyflwynodd y gwasanaeth gynllun i rai cleifion deithio i'r ysbyty mewn tacsi yn hytrach nag ambiwlans os yw'n ddiogel i wneud hynny, a dywedodd y gwasanaeth bod y cynllun yma yn egluro'r cynnydd mewn gwariant yn rhannol.

Cafodd 112 o gleifion ychwanegol eu cludo gyda thacsi yn hytrach nag ambiwlans fel rhan o'r cynllun yma.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y gwasanaeth ambiwlans yn "gwastraffu arian da" gan gynyddu'r gwariant ar dacsis heb welliant yn amser ymateb ambiwlansys.

'Angenrheidiol'

Ym mis Rhagfyr 2014 roedd nifer yr ambiwlansys oedd wedi cyrraedd y galwadau mwyaf brys o fewn eu targed amser ar ei lefel isaf ers tair blynedd.

Cyrhaeddodd 42.6% o ymatebion brys i alwadau Categori A (perygl i fywyd ar unwaith) o fewn wyth munud - oedd i lawr o 51% ym mis Tachwedd, ac i lawr o 57.6% yn Rhagfyr 2013.

Y targed yw 65%.

"Mae defnyddio tacsis i gymryd rhai cleifion i'r ysbyty yn y misoedd diwethaf wedi bod yn angenrheidiol i alluogi i'n criwiau prysur fod ar gael i fynychu galwadau bryd," meddai Gordon Roberts, cyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

"Ym mis Awst fe wnaethon ni lansio cynllun sy'n rhoi'r opsiwn i barafeddygon drefnu i glaf fynd i'r ysbyty mewn tacsi yn hytrach nag ambiwlans, ond dim ond os ydi hi'n ddiogel i wneud hynny.

"Y syniad tu ôl i'r cynllun yw bydd y criw wedyn yn rhydd i ymateb i alwadau eraill sydd efallai angen ambiwlans ar frys."

'Defnydd priodol'

Mae dros 100 o gleifion wedi cael eu cludo i ysbytai mewn tacsis ers i'r cynllun gael ei lansio ym mis Awst y llynedd, ac mae cleifion hefyd yn cael eu cludo yn ôl ac ymlaen i apwyntiadau arferol mewn tacsi pan fo ambiwlansys neu yrwyr gwirfoddol yn brysur.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans yn briodol, ac yn ffonio 999 dim ond os ydyn nhw'n wael iawn, wedi eu hanafu neu fod eu bywydau mewn perygl.

"Beth rydyn ni wedi ei weld ydi dirywiad parhaol yn amser ymateb ambiwlansys, felly petai ni wedi gweld gwelliant yn yr amseroedd yma a gwell defnydd o'r arian sy'n cael ei wario ar dacsis, gallwch chi ddweud ei fod yn ticio'r bocs o ran gwelliant," meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

"Rydyn ni'n gwastraffu arian yn gwario mwy ar dacsis a chael amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys - does neb yn ymddangos i fod yn ennill o hyn."