Gwobr i gloddiad olion traed hynafol
- Published
Mae archeolegwyr daearyddol helpodd ddarganfod yr olion traed cynharaf tu allan i Africa wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith.
Dr Martin Bates o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oedd yn gyfrifol am ddarganfod yr olion 800,000 mlynedd oed yn Norfolk yn 2013.
Roedd yn rhan o dîm oedd yn cynnwys gwyddonwyr o'r Amgueddfa Brydeinig a'r Amgueddfa Hanes Naturiol yn cloddio ar draeth yn Happisburgh.
Mae'r prosiect wedi cael ei enwi yn gloddiad achubol y flwyddyn yn y Gwobrau Archeoleg.
'Rhywbeth arbennig'
Dr Bates wnaeth gydnabod yr olion fel rhai dynol ar ôl iddo astudio rhai tebyg yn Y Borth yng Ngheredigion.
Dywedodd: "Yn eu gweld nhw am y tro cyntaf, roedd hi'n amlwg bod y rhain yn rhywbeth arbennig."
Cafodd yr olion eu datgelu pan oedd y llanw'n isel ac roedd y dŵr wedi symud y tywod ar y traeth.
Dywedodd Dr Bates bod yr olion yn amrywio o blant i bobl hyn, a rhain oedd y darganfyddiad diweddaraf yn yr ardal, wedi i ffosilau gael eu darganfod gerllaw.