Cynllun i ailwampio addysg ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Powys wedi galw am ailwampio addysg uwchradd yn y sir yn llwyr, gan gynnwys cau dwy ysgol yn Aberhonddu a Gwernyfed ac agor campws newydd gwerth £50m yn Aberhonddu.
Byddai addysg cyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddarparu mewn ysgol dwy ffrwd yng nghanolbarth Powys - ar safle Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt ar hyn o bryd.
Wrth i adolygiad gael ei gynnal o addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir, byddai'r cyngor yn ystyried sefydlu o leia' un ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal, yn ogystal ag edrych ar y ddarpariaeth dwy ffrwd.
Bydd ad-drefnu addysg ôl-16 yn ardal Ystradgynlais hefyd yn flaenoriaeth.
Mae 12 ysgol uwchradd ym Mhowys ar hyn o bryd, ac mae dros 1,500 o lefydd gwag yn yr ysgolion yma.
Bydd cabinet llawn y cyngor yn ystyried y cynigion diweddara' maes o law.
'Codi safonau'
Dywedodd yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb am ysgolion, y Cynghorydd Arwel Jones: "Does gennym ni ddim digon o ddisgyblion nac adnoddau i gynnal y niferoedd sydd yn ein hysgolion nawr. Os ceisiwn ni fynd ymlaen yn yr un modd, byddwn yn methu, a'n dysgwyr ifanc fydd yn colli allan.
"Mae a wnelo hyn â mwy nag arian. Mae'n ymwneud â chodi safonau, ond allwn ni ddim gwneud hyn heb ddefnyddio adnoddau'n effeithiol. Heb newid yn y dyfodol, fyddwn ni ddim yn gallu fforddio'r athrawon gorau, na darparu'r amgylchedd dysgu gorau na'r canlyniadau gorau.
"Yn ddelfrydol, hoffem ni weld ysgolion gydag o leiaf 600 o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed gydag o leiaf 150 ymhob chweched dosbarth. Bydd hyn yn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu'r amrediad ehangaf o bynciau heb i'r disgyblion orfod teithio i ysgolion eraill.
"Hoffem ni weld ffrydiau cyfrwng Cymraeg ag ynddyn nhw ddigon o ddisgyblion i gynnal o leiaf ddau ddosbarth ymhob grŵp blwyddyn. Bydd hyn yn galluogi'r ysgolion i ddarparu cwricwlwm helaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."
'Drwg i addysg'
Mewn ymateb i'r cynlluniau, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a'r AC dros Frycheiniog a Maesyfed, Kirsty Williams: "Bydd y cyhoeddiad hwn wedi siomi rhieni a disgyblion yn arw.
"Byddai'r cynlluniau'n ddrwg i addysg uwchradd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Am y rheswm hwnnw, rydyn ni'n galw ar y cyngor i ailystyried y cynlluniau hyn ar frys."
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2015