Caniatáu cais drilio nwy ym Montrhydyfen
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi rhoi caniatâd i gwmni ddrilio am nwy ger Pontrhydyfen.
Daeth tua 30 o bobl leol i'r cyfarfod cyngor yng nghanolfan ddinesig Port Talbot i wrthwynebu'r cais.
Roedd y cynghorwyr yn trafod cais gan gwmni UK Methane Ltd i gynnal profion am nwy methan a siâl yng Nghwm Afan.
Yn ôl rhai trigolion bydd y gwaith yn amharu ar le o brydferthwch naturiol ac fe allai lygru afonydd lleol.
Maen nhw hefyd yn dadlau y gallai'r cynllun arwain at ffracio i chwilio am nwy.
Lefelau sŵn
Ond dywed UK Methane na fyddant yn defnyddio'r broses honno.
Fe wnaeth swyddogion cynllunio'r sir argymell y dylid derbyn y cais gan ddweud na fyddai'n niweidio'r amgylchedd.
Yn ôl y swyddogion doedd Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn gwrthwynebu'r cais.
Cafodd cais blaenorol ei wrthod oherwydd pryder am lefelau sŵn, ond roedd y cynnig newydd yn cynnwys mesurau i reoli lefelau sŵn.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr 9-1 o blaid rhoi caniatâd.
Straeon perthnasol
- 2 Chwefror 2015