Dechrau adeiladu canolfan ddosbarthu Aldi yng Ngwynllŵg
- Cyhoeddwyd

Gall cynllun i godi canolfan ddosbarthu i arfarchnadoedd yng Nghaerdydd arwain at agor hyd at ddeg archfarchnad newydd yng Nghymru a chreu 500 o swyddi eraill, yn ôl cwmni Aldi.
Dywed Aldi y bydd y safle yng Ngwynllŵg, sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn creu dros 400 o swyddi.
Fe fydd y ganolfan newydd yn cyflenwi siopau yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr.
Mae'r buddsoddiad o £59.5 miliwn yn cynnwys cymorth gan Lywodraeth Cymru, ar ffurf cyllid busnes o £4.5 miliwn.
Bydd arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i baratoi'r tir ar gyfer y datblygiad.
Mae'r gwaith adeiladu ar y safle 40,000 metr sgwâr ym Mharc Busnes Capital, Gwynllŵg, bellach wedi dechrau.
Pan fydd wedi'i gwblhau bydd yr adeilad yn cynnwys 300 metr sgwâr o swyddfeydd dros ddau lawr, maes parcio i 250 o geir, mannau llwytho, porthdy a ffyrdd mynediad.
Mae disgwyl y bydd y ganolfan wedi'i chwblhau erbyn chwarter cyntaf 2017.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014