Prifwyl: Disgwyl 150,000 o ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod

Mae trefnwyr yn disgwyl 150,000 o ymwelwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn Y Fenni.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod y pwyllgorau lleol wrthi'n ddiwyd yn gweithio ar draws y dalgylch yn codi ymwybyddiaeth a threfnu gweithgareddau codi arian.

Bydd y digwyddiad "swyddogol" cyntaf yng Nghil-y-coed ddydd Sadwrn, 27 Mehefin, hynny yw Gŵyl a Seremoni'r Cyhoeddi.

'Edrych ymlaen'

Dywedodd y Cynghorydd Phil Hobson, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros yr iaith Gymraeg: "Rydym yn edrych ymlaen at Gyhoeddi'r Eisteddfod yn arw ... ac mae'r trigolion lleol eisoes yn frwdfrydig iawn.

"Mae pobl ym mhob cwr o'r sir yn brysur yn trefnu gweithgareddau er mwyn i bawb fod yn rhan ohonyn nhw.

"Rydyn ni i gyd wedi cyffroi am fod yr Eisteddfod yn dod i'r ardal am y tro cyntaf ers canrif a mwy, ac rydyn ni'n edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru, y DU a gweddill y byd."

Disgrifiad o’r llun,
Yr Archdderwydd Christine fydd yn cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2016.

Yn unol â thraddodiad, mae'n rhaid cyhoeddi'r bwriad i gynnal Eisteddfod yn lleol o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn i'r Brifwyl gychwyn.

Bydd Gorsedd y Beirdd, ynghyd â chynrychiolwyr o ysgolion, sefydliadau a chymdeithasau lleol, yn gorymdeithio drwy ganol y dref ar eu ffordd i'r Seremoni Gyhoeddi yng ngerddi Castell Cil-y-coed..

Yn ystod y seremoni bydd rhestr testunau cystadlaethau yr Eisteddfod yn cael ei chyflwyno i'r Archdderwydd, Christine, gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Frank Olding.

"Mae'n ffordd liwgar ac urddasol o godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod ac am yr hyn fydd yn digwydd yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau ymhen 500 o ddyddiau," meddai llefarydd.