Cyllideb 2015: Galw ar Osborne i ymrwymo cyllid i Gymru
- Cyhoeddwyd

Dylai'r Canghellor George Osborne wneud yr un ymrwymiad ar gyfer cyllid i Gymru fel ei gydweithiwr yn y Trysorlys, Danny Alexander, medd Gweinidog Cyllid y Cynulliad, Jane Hutt.
Mae'r gweinidog wedi ysgrifennu at Mr Osborne cyn iddo gyhoeddi'r gyllideb ddydd Mercher yn gofyn iddo egluro ei safbwynt ar y mater.
Yn y cyfamser mae dyfalu y gallai Mr Osborne gynnwys datganiad yn ei Gyllideb am godi lagwn enfawr ym Mae Abertawe.
Yn ei llythyr mae Ms Hutt yn datgan fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Mr Alexander eisoes wedi galw adolygiad o sut mae llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu.
Roedd hyn, meddai, yn dilyn addewid lleiafswm ariannu gan David Cameron a Nick Clegg.
Bydd Mr Osborne yn cyhoeddi'r gyllideb olaf cyn yr etholiad cyffredinol am tua 12:30.
Yn y cyfamser mae dyfalu cynyddol y bydd y Canghellor yn datgelu cam ymlaen sylweddol yn y cynlluniau am lagŵn newydd ym Mae Abertawe yn ystod araith y gyllideb.
Mae Tidal Lagoon Power yn aros i glywed os caiff eu cynllun ar gyfer lagŵn y sêl bendith yr Arolygiaeth Gynllunio.
Petai caniatâd yn cael ei roi fe fyddai'r lagŵn hwnnw yn costio £1bn ac yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 155,000 o gartrefi am 120 o flynyddoedd meddai'r cwmni.
Mae dyfalu y bydd Mr Osborne yn cyhoeddi y bydd y cwmni yn cael cynnig i drafod y posibiliadau am wahanol gymorthdaliadau ar gyfer y prosiect.