Caerdydd 1-1 Bournemouth
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Caerdydd 1-1 Bournemouth
Fe ddaru peniad yn yr ail hanner gan Bruno Manga sicrhau pwynt i Gaerdydd wrth i Bournemouth gael eu bwrw oddi ar frig y Bencampwriaeth.
Rhoddodd ergyd hir drawiadol gan Harry Arter yr ymwelwyr ar y blaen yn ystod yr hanner cyntaf.
Roedd Caerdydd yn haeddiannol o gôl yn yr ail hanner, a Ecuele Manga sicrhaodd ei drydedd gôl o'r tymor wedi cic gornel gan Peter Whittingham.
Mae Bournemouth yn llithro i lawr i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth, gan fod Watford a Middlesbrough wedi ennill eu gemau.