Galw i wella gwasanaeth orthodeintydd

  • Cyhoeddwyd
danedd

Mae galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi arian a gwaith penodol i fyrhau rhestrau aros am driniaeth orthodeintydd mewn ardaloedd gwledig.

Yn ôl aelod o bwyllgor iechyd y Cynulliad, mae'n annerbyniol fod pobl ifanc yn colli cyfle i gael triniaeth oherwydd eu bod nhw'n aros cyhyd.

Mae un teulu o Aberystwyth wedi bod yn aros am bum mlynedd am driniaeth orthodeintydd.

Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i geisio gwella'r mynediad i wasanaethau orthodonteg, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Disgrifiad o’r llun,
Nid yw Kim James Williams yn teimlo fod y sefyllfa bresennol yn ddigon da.

Erbyn hyn mae merch hynaf Kim James Williams sy'n bedair ar ddeg wedi cael sythwr dannedd, neu brace, a hynny ar ôl i'w haelodau seneddol a chynulliad ymyrryd.

Dywedodd Kim "mae'n frustrating, ac oedd Seren jyst yn gofyn pryd oedd y brace yn dod.... so ti yn poeni, poeni am hyder a datblygiad y plentyn."

Rhestr aros

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae'n rhaid aros dros naw mis yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda cyn cael asesiad. Wedi hynny, mae'n cymryd dros ddwy flynedd ar gyfartaledd i gael triniaeth gan orthodeintydd.

Mae'r Bwrdd yn cydnabod bod y rhestr aros yn hir, a'u bod nhw'n ceisio cyflymu'r broses o gael yr apwyntiad cyntaf.

Ond dydi'r sefyllfa ddim yn unigryw. Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gall gymryd hyd at dair blynedd i gael asesiad a thair blynedd wedyn i gael triniaeth.

Ym Mhowys, rhwng chwech a 18 mis sydd yn rhaid aros.

Canllawiau newydd

Mae'r llywodraeth yn ystyried canlyniadau adolygiad diweddar o wasanaethau orthodonteg yng Nghymru, ac yn bwriadu rhyddhau canllawiau newydd i'r byrddau iechyd.

Ond mae un aelod o bwyllgor iechyd y Cynulliad wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael a'r rhestrau aros yng nghefn gwlad.

Dywedodd Elin Jones AC "Dwi wedi gofyn i'r Gweinidog Iechyd i ystyried arian a gwaith penodol i fyrhau rhestrau aros, fel fod y bobl ifanc sy'n mynd i mewn i'r broses yn cael rhywfaint o obaith i gawl y gwaith orthadonteg wedi ei wneud."

Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i geisio gwella'r mynediad i wasanaethau orthodonteg, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. "Rydym wedi buddsoddi £700,000 i wella'r ffordd y mae cleifion yn cael eu cyfeirio at driniaeth ddeintyddol ac orthodeintydd er mwyn gwneud y system yn fwy effeithiol ac i leihau rhestrau aros."