Y Gyllideb: Beth sydd ar y gweill i Gymru?
- Cyhoeddwyd

Mae'r Canghellor George Osborne wedi cadarnhau bod trafodaethau ffurfiol wedi dechrau ar godi lagŵn i gynhyrchu ynni gwyrdd ym Mae Abertawe.
Gwnaeth y cyhoeddiad yn ystod ei araith gyllideb olaf cyn yr etholiad cyffredinol.
Yn ogystal, daeth cyhoeddiad y bydd tollau Pont Hafren yn gostwng o £6.50 i £5.40 erbyn 2018.
Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar gynllun dinas Caerdydd, ac ychwanegodd y canghellor y bydd cyllid newydd ar gael ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
Dyma rhai o'r pwyntiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Chymru:
- Lwfans treth personol yn codi i £10,800 yn 2016-17 a £11,000 yn 2017/18;
- Diddymu'r cynnydd arfaethedig yn y dreth ar danwydd ceir ym mis Medi;
- Diddymu Treth Ar Werth ar y gost o groesi pontydd Hafren, sy'n lleihau'r gost i lorïau bach a bysys i groesi;
- Bydd pobl sydd ag ISA yn medru buddsoddi i'w cyfrifon heb iddo gyfri at eu mwyafswm i'r flwyddyn;
- Ffermwyr i elwa gan y byddan nhw'n cael cyfnod o 5 mlynedd i lunio cyfartaledd incwm at bwrpas treth yn hytrach na dwy flynedd;
- Llywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau am lagwn Bae Abertawe a Chynllun Dinesig Caerdydd.
Ymateb
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Jane Hutt y byddai'r gyllideb yn arwain at £18m ychwanegol yn dod i Gymru yn 2015-16 o dan fformiwla Barnett, ond byddai toriadau ehangach y Trysorlys yn gwmwl ar y buddsoddiad.
"Mae cynllun toriadau Llywodraeth y DU yn ystod cyfnod y llywodraeth yma wedi cael effaith difrifol ar Gymru ac mae'n mynd i barhau gyda £30bn yn ychwanegol mewn toriadau wedi eu clustnodi hyd at 2017-18", meddai.
Dywedodd Jenny Willott, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ganol Caerdydd: "Mae'r gyllideb hon yn dangos beth mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gallu ei wireddu fel rhan o'r llywodraeth: creu cyfleoedd i bawb drwy adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach."
Ond roedd Jonathan Edwards A.S. o Blaid Cymru yn feirniadol o "roddion cyn-etholiadol oedd wedi eu cynllunio i apelio at y bleidlais graidd Dorïaidd", oedd meddai "yn cuddio gwirionedd y sefyllfa, sef y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ystod cyfnod y llywodraeth nesaf yn mynd i ddioddef toriadau gwerth biliynau, a hyn wedi ei gefnogi gan y Blaid Lafur".
Dywedodd llefarydd economaidd UKIP, Patrick O'Flynn, bod y Gyllideb yn cadarnhau methiant y glymblaid i ddileu'r diffyg ariannol dros gyfnod y Senedd fel y dywedodd y buasai'n ei wneud.
Dadansoddiad Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol
Dim rhoddion a dim gimics, dyna ddywedodd y canghellor cyn heddiw, gan bod arian yn dal i fod yn brin, ond gyda dim ond 50 diwrnod i fynd tan yr etholiad cyffredinol, roedd hwn wastad yn mynd i fod yn gyllideb gwleidyddol iawn.
Felly roedd yna bolisiau i roi mwy o arian yn ôl ym mhocedi'r etholwyr - ceiniog oddi ar peint o gwrw, cynydd pellach yn nhrothwy treth incwm a newyddion da i deithwyr sy'n defnyddio Pont Hafren.
Cyfle euraidd iddo hefyd ymarfer ei negeseuon ar gyfer yr ymgyrch a gosod eu tôn ar gyfer yr etholiad - bod eu polisiau economaidd wedi gweithio dros y bum mlynedd ddiwethaf - gyda'r economi yn ffynnu, a swyddi ar gynnydd.
Ac er bod mwy o doriadau eto i ddod yn y blynyddoedd neaf, roedd yna neges o ddyddiau da eto i ddod - gyda'r cyfnod o gynni yn dod i ben ynghynt na'r disgwyl.
Lagŵn Bae Abertawe
Mae Tidal Lagoon Power yn aros i glywed os caiff eu cynllun ar gyfer lagŵn sêl bendith yr Arolygiaeth Gynllunio.
Petai caniatâd yn cael ei roi fe fyddai'r lagŵn yn costio £1bn ac yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 155,000 o gartrefi am 120 o flynyddoedd meddai'r cwmni.
Bydd y trafodaethau yn ymwneud a chymorthdaliadau ar gyfer cynhyrchu trydan.
Dadansoddiad Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd
Fe allai morlyn Bae Abertawe fod y cyntaf o'i fath. Arwahan i fod yn gynllun arloesol, byddai egni o lanw a thrai'r mor ddwywaith y dydd, yn golygu ynni glannach na glo, nwy ac olew.
Gallai hefyd arwain at swyddi newydd, yn enwedig safle penodol yn ne Cymru i adeiladu tyrbinau fyddai'n cael eu rhoi o dan y mor i droi pwer y mor yn drydan yn ein cartrefi a safleodd gwaith.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Prydain yn arwyddocaol, ac mae cyhoeddiad y Canghellor yn golygu y bydd trafodaethau swyddogol yn dechrau gyda chwmni Tidal Lagoon Power ar y pris y mae'r cwmni yn ei ofyn am gynhyrchu ynni o'r morlynnau llanw newydd.
Ar gyfer Abetawe, mae'r cwmni yn hawlio £168 am bob awr megawat o ynni fyddai'n cael ei greu, am 35 mlynedd cynta y prosiect.
Mae hynny'n llawer uwch na faint gytunwyd i dalu cwmni EDF am ynni niwclear o Atomfa Hinckley. Y pris am ynni hynny ydy £92.50, ond mae dadlau o hyd bod y cymhorthdal yn gyfystyr a chymorth i'r diwydiant ynni.