Fisa: Her myfyrwyr yn methu

  • Cyhoeddwyd
Glyndwr University

Mae saith o gyn fyfyrwyr wedi methu yn eu hymdrech i apelio yn erbyn penderfyniad prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, i'w diarddel o'u cwrs gradd.

Cafodd y saith eu diarddel yn ystod honiadau o dwyll ynglŷn â fisas.

Fe wnaeth barnwr benderfynu ddydd Mercher i wrthod yr hawl i'r saith gael arolwg barnwrol.

Dywedodd Mr Ustus Collins y dylai'r saith adael y Deyrnas Unedig, a cheisio herio penderfyniad y Swyddfa Gartref i wrthod fisas o'u gwledydd eu hunain.

Cafodd y saith eu cymryd oddi ar eu cyrsiau yn dilyn ymchwiliad gan raglen Panorama y BBC.

Roedd y rhaglen yn dweud fod miloedd o fyfyrwyr wedi twyllo mewn profion iaith Saesneg er mwyn sicrhau fisa.

Roedd y myfyrwyr yn honni na roddodd y brifysgol yr hawl iddynt gyflwyno eu hachos.