Rygbi: Cytundebau deuol i 4 arall

Canolog

Mae Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Scott Williams a Gareth Anscombe wedi arwyddo cytundebau deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Ddiwrnod wedi i Rhys Webb arwyddo cytundeb o'r fath, mae pedwar arall wedi ymrwymo i'w rhanbarthau a'u dyletswyddau rhyngwladol.

Mae'r criw yn ymuno â Sam Warburton, Dan Lydiate, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Tyler Morgan a Hallam Amos.

Mae'r 12 chwaraewr yn cynrychioli'r pedwar rhanbarth - y Scarlets, y Gweilch, Gleision Caerdydd a Dreigiau Casnewydd Gwent.

Wrth gyhoeddi'r newyddion bnawn Mercher, fe ddywedodd rheolwr Cymru, Warren Gatland fod "Alun Wyn, Dan, Scott a Gareth yn cynrychioli trawstoriad o ran lefelau profiad, ond mae'r pedwar wedi profi eu talent".