Cyflwynydd Newydd Cyw
- Cyhoeddwyd

Fe all BBC Cymru Fyw ddatgelu mai'r gantores Catrin Herbert o Gaerdydd fydd un o gyflwynwyr newydd gwasanaeth gwylwyr iau S4C, Cyw.
Mi fydd Catrin yn dechrau ar y sgrin ym mis Ebrill.
Daeth y cadarnhad gan bennaeth y cwmni cynhyrchu Boom Plant, Angharad Garlick. Dywedodd: "Mae Catrin wedi ymuno gyda'r tîm ers dydd Llun diwetha.
"Rydym yn gobeithio y bydd penodiad arall o fewn y misoedd nesa."
Cantores ifanc o ardal Caerdydd
Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, mae Catrin Herbert yn 22 oed ac yn gantores sy'n cyfansoddi ei chaneuon ei hun.
Fe gyrhaeddodd rownd derfynol 'Cân i Gymru' yn 2013 gyda'i chân 'Ein Tir Na N'Og Ein Hunain' Bu'n astudio Cymraeg Proffesiynol yn y Brifysgol.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd pwy fydd yn ymuno â Catrin.
Mae gwasanaeth Cyw yn cynnwys dros 8 awr o raglenni dyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener a dwy awr ar fore Sadwrn a Sul. Mae'r tîm cynhyrchu hefyd yn creu 22 awr o raglenni gwreiddiol ar draws y flwyddyn.
Mae Boom Plant yn cyflogi 50 o bobl fel rhan o'r tîm yng Nghaerdydd.