Diffyg hyder meddygon ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr
- Published
image copyrightGoogle
Mae meddygon sy'n anhapus gyda chynllun i ad-drefnu rhai gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru wedi pasio cynnig o ddiffyg hyder yn y bwrdd iechyd.
Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA, mae staff yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn anhapus gyda newidiadau i wasanaethau mamolaeth gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Gall y newid olygu bod staff yn cael eu symud i Ysbytai Gwynedd, Bangor a Maelor, Wrecsam o fis Ebrill.
Mae staff yn dweud nad oedd digon o ymgynghori ar y cynlluniau, ac yn galw ar y gweinidog iechyd i ymchwilio.
Cafodd y bleidlais ei chynnal wedi cyfarfod ddydd Llun.