Cymraes yn brifweithredwraig newydd elusen Macmillan
- Cyhoeddwyd

Mae elusen Cymorth Canser Macmillan wedi penodi Cymraes fel eu prif weithredwraig newydd.
Nid yn unig fod Lynda Thomas, sy'n wreiddiol o Borthcawl yn brif weithredwr cyntaf erioed o Gymru ar yr elusen, ond hi yw'r ddynes gyntaf erioed i ymgymryd â'r swydd.
Fe dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol Llanhari, ac mae hi bellach yn byw yn Llundain.
Mae 'na dros 130,000 o bobl yn byw gyda chanser yng Nghymru, ac erbyn 2030 mae disgwyl i'r nifer hynny ddyblu i chwarter miliwn.
Dechreuodd Lynda ei gyrfa yn gweithio i elusen Macmillan yn 2001 fel pennaeth adran y wasg, cyn cael ei dyrchafu i fod yn aelod o'r bwrdd fel Cyfarwyddwr Materion Allanol yn 2007.
Codi arian
Yn Awst 2011 daeth yn Gyfarwyddwr Codi Arian, lle bu'n ei arwain y tîm codi arian, sydd wedi cynyddu incwm yr elusen o fwy na thraean yn y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd Lynda: "Ar ôl gweithio ym Macmillan am bron i 14 mlynedd rwy'n gwybod yn iawn am y gwahaniaeth enfawr yr ydym yn ei wneud i fywydau pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser, felly rwyf yn teimlo ei bod yn anrhydedd gwirioneddol i fod yn Brif Swyddog Gweithredol newydd Macmillan.
"Gyda nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn disgwyl i gyrraedd pedair miliwn erbyn 2030, mae gennym her enfawr o'n blaenau ond rwy'n credu yn fwy nag erioed fod Macmillan mewn sefyllfa i ddarparu'r cymorth a'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau nad oes neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun."