Bwletin ysgol: Sgiliau dringo trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Bydd criwiau o bobl ifanc Dyffryn Ogwen a Blaenau Ffestiniog yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau dringo, boldro a defnyddio rhaffau yn ystod y misoedd nesaf - i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Prosiect newydd Hongian sy'n gyfrifol am drefnu'r hyfforddiant, a law yn llaw a hynny, bydd gweithdai yn cael eu cynnal i greu cynnwys ar gyfer gwefan y cynllun. Fe fydd rhai o'r gweithdai yn Neuadd Dyffryn Ogwen Bethesda y mis hwn.
Dywedodd Rhys Roberts o gynllun Hongian wrth un o ohebwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Cadi: "Mae cynllun fel hyn yn bwysig oherwydd bod y sector ddringo yng Ngogledd Cymru ac yn enwedig Eryri yn Seisnigaidd ofnadwy a bwriad Hongian ydi trio rhoi'r Gymraeg nol mewn yn y diwydiant.
"Mae gen ti lefydd yng Nghwm Idwal er enghraifft hefo enwau llefydd y brenhinoedd Brythoneg ac mae rheiny'n cael eu hadnabod yn Saesneg. Be da ni'n trio ei neud ydi dod ag enwau felly yn eu hol a gwneud i bobl ifanc sylweddoli nad ydi o'n rhywbeth elitaidd."
Bu Cadi, Esme a Sophie - y tri gohebydd - yn y Blaenau i holi Rhys Roberts a gweld pencadlys Hongian - adeilad CellB yn y dref.
Pam 'CellB'? Roedd yr adeilad yn arfer bod yn orsaf heddlu ac yn gartref i lys ynadon Blaenau Ffestiniog ers talwm.
Mae partneriaeth Dyffryn Ogwen hefyd yn rhan o gynllun Hongian. Esboniodd Meleri Davies o'r bartneriaeth wrth Esme: "Mae Blaenau a Bethesda yn ddwy ardal chwarelyddol ac mae'r ddwy ardal hefo canran uchel o siaradwyr Cymraeg.
"Felly yn ddiwylliannol mae'r ddwy ardal yn debyg ac mi roedden ni yn gweld cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc."
Ychwanegodd Meleri o'i swyddfa ar stryd fawr Bethesda: "Y bwriad ydi gweld pobl ifanc yn mwynhau boldro a dringo.
"Mi fyddwch chi yn cyfrannu tuag at wefan Gymraeg newydd cyffrous ac mae'n gyfle ichi gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fyddwch chi hefyd yn cyfrannu tuag at enwi'r dringfeydd a rhoi enwau Cymraeg arnyn nhw."
Mae'r cynllun wedi cael croeso hefyd ymhlith disgyblion ac aelodau'r clwb dringo yn Ysgol Dyffryn Ogwen.
Fe gafodd Sophie ymateb Bess - un o aelodau'r clwb. Roedd hi o'r farn y byddai Hongian yn annog mwy o bobl ifanc i ddringo
"Mae'n syniad da achos mi fydd yn gyfle i chi ffeindio allan be da chi'n galli ei neud o ran gwahanol ddringfeydd. Mae'n hwyl hefyd i gyfarfod pobl eraill a dringo hefo nhw," meddai.
Mae adroddiad gohebwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Cadi, Esme a Sophie i'w glywed ar raglen y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru rhwng 17:00 a 18:00 ddydd Iau.