Dim ond traean o blant Cymru â dannedd iach
- Cyhoeddwyd

Mae arolwg newydd yn awgrymu mai dim ond traean o blant Cymru sydd â dannedd iach, a bod problemau yn gwaethygu wrth i blant fynd yn hŷn.
Mae'r arolwg hefyd yn dweud bod Cymru yn waeth na Lloegr (39% â dannedd iach) o ran iechyd deintyddol, ond mae gan Gymru well canlyniadau na Gogledd Iwerddon (31%).
Mae'r Arolwg Iechyd Deintyddol Plant, sy'n cael ei gyhoeddi pob 10 mlynedd, yn awgrymu bod llai na hanner plant pump oed yng Nghymru â iechyd deintyddol da, ac mae'r ffigwr yn gostwng i lai na chwarter i blant 15 oed.
Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod gan 41% o blant pump oed bydredd dannedd - ffigwr sy'n codi i 52% i blant 12 oed a 63% i blant 15 oed.
Dywed yr arolwg "nad oes tystiolaeth o newid yn y nifer o blant hŷn sydd â phydredd dannedd rhwng 2003 a 2013".
Problemau'n gyffredin
Er i nifer o blant adrodd bod ganddyn nhw farn gadarnhaol o'u hiechyd deintyddol, mae'r arolwg yn awgrymu bod problemau deintyddol yn gyffredin.
Mae saith allan o 10 o blant rhwng 12 a 15 oed wedi adrodd problemau yn y tri mis diwethaf.
Y problemau mwyaf cyffredin oedd dannedd sensitif, wlserau, arogl drwg ar eu hanadl, dannoedd a gymiau yn gwaedu.
Roedd dannoedd yn fwyaf cyffredin mewn plant o gefndiroedd difreintiedig.
Trafferth cael deintydd
Dywedodd dros hanner plant 12 a 15 oed bod eu bywydau pob dydd wedi cael eu heffeithio gan broblemau gyda'u dannedd.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod glanhau dannedd ddwywaith y dydd wedi cynyddu'n sylweddol mewn plant 8 oed ers yr arolwg diwethaf yn 2003, ond bod mwy o rieni (14%) yn cael trafferth dod o hyd i ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd i'w plant.
Arolwg Iechyd Deintyddol Plant 2013, gafodd ei gomisiynu gan Adrannau Iechyd y DU, yw'r pumed adroddiad o'i fath ers 1973 yng Nghymru a Lloegr.