Tu ôl i'r tîm: Prav Mathema
- Published
Mae penwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 ar y gorwel ac mae gan Gymru obaith o hyd o orffen ar y brig.
Trwy gydol y gystadleuaeth mae Cymru Fyw wedi cael cipolwg ar waith rhai o'r unigolion tu ôl i'r llenni sy'n allweddol i lwyddiant y tîm cenedlaethol.
Wrth i dîm Warren Gatland Gymru baratoi i herio'r Eidal yn Rhufain, Prav Mathema, Rheolwr Meddygol Undeb Rygbi Cymru sydd yn sôn am y gwaith o sicrhau bod y garfan yn holliach.
Monitro ffitrwydd
Ar ddiwrnod hyfforddi arferol, mae'r gwaith yn dechrau am 7.00am er mwyn paratoi ar gyfer y cyfarfod meddygol am 7.45am.
Mae'r adran feddygol - fi, Dr Geoff Davies (meddyg chwaraeon y tîm cenedlaethol), ein ffysiotherapyddion Mark Davies (neu 'Carcus') a Craig Ranson, ynghyd â'r ddau therapydd meinwe meddal (soft tissue) Angela Rickard a Sarah Jacobs - yn cyfarfod cyn i'r chwaraewyr gyrraedd.
Byddwn ni'n trafod amserlen y dydd, anghenion y chwaraewyr a beth sydd angen ei wneud cyn y sesiynau sydd o'n blaenau.
Mae'r monitro boreol yn dechrau wrth i'r chwaraewyr gyrraedd - mae nhw'n nodi unrhyw anafiadau, cyhyrau stiff neu salwch yn y system fonitro. Rydyn ni hefyd yn cynnal monitro cyhyrysgerbydol, yn arbennig i asesu unrhyw newidiadau i symudedd neu gryfder cyrff y chwaraewyr. Mae'r holl wybodaeth yma yn ein galluogi i baratoi hyfforddiant ar gyfer anghenion pob chwaraewr yn unigol.
Ar ôl hyn mae Adam Beard (Pennaeth Perfformiad Corfforol) a minnau yn cael cyfarfod ynglŷn â pha chwaraewyr sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant a beth byddan nhw'n medru eu cwblhau gydol y dydd. Rydyn ni'n asesu pob chwaraewr yn unigol a thrafod newidiadau posib i'w llwyth hyfforddi.
Wedi hynny, mae gan y tîm meddygol tua dwy awr a hanner i drin a strapio unrhyw chwaraewr sydd ei angen.
Sesiynau hyfforddi
Mae'r hyfforddi yn dechrau am 10.15am a lle bynnag maen nhw'n hyfforddi - ar y caeau, yn y gampfa neu yn y Ganolfan Rhagoriaeth Genedlaethol - mae yna aelod o'r tîm meddygol wrthlaw.
Yn dilyn sesiwn y bore, rydyn ni'n dod at ein gilydd dros ginio a nodi unrhyw newidiadau ers y bore, gan drafod unrhyw driniaeth ychwanegol neu newidiadau i'r hyfforddiant sydd eu hangen ar y chwaraewyr.
Wedyn, mae ganddon ni gyfnod arall o ddwy awr i roi triniaeth cyn sesiwn y tîm yn y prynhawn.
Bydd yr holl dîm meddygol ar ymyl y cae yn y sesiwn yma, oherwydd mai dyma pryd mae'r rhan fwyaf o hyfforddiant cyffwrdd yn digwydd.
Ar ddiwedd y prynhawn, rydyn ni'n trin y chwaraewyr yn ôl eu cyflwr ar ôl y sesiwn. Rydyn ni hefyd yn gallu parhau i'w trin yn hwyr i'r noswaith a dechrau eto y peth cyntaf y bore wedyn.