Gwastraff anghyfreithlon: Cosb newydd

  • Cyhoeddwyd
sbwriel

Mae sbwriel yn cael ei waredu yn anghyfreithlon bob 15 munud yng Nghymru, yn ôl ymchwil gan raglen Eye on Wales.

Nawr mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyflwyno dirwyon yn y fan a'r lle i'r rhai sy'n troseddu.

Yn ôl Taclo Tipio Cymru, roedd dros 36,000 achos o waredu sbwriel yn anghyfreithlon yng Nghymru y llynedd.

"Mae hynny'n cyfateb i 100 o ddigwyddiadau bob dydd," meddai rheolwr y rhaglen, Gary Evans.

"Mae hynny'n llawer gormod." meddai.

"Mae'r trethdalwr yng Nghymru yn gorfod talu'r bil i glirio'r gwastraff yma, a gallai'r arian hynny gael ei wario'n llawer gwêl - ar wasanaethau eraill fel addysg ac iechyd."

Cost

Ar draws y DU, mae amcangyfrifir bod troseddau yn ymwneud â gwastraff yn costio £568 miliwn y flwyddyn, gan gynnwys costau glanhau a refeniw treth a gollwyd.

Mae'r gost i gynghorau Cymru o glirio achosion o dipio anghyfreithlon yn agos at £2 miliwn y flwyddyn.

Mae ffigurau a gafwyd gan raglen Eye Radio Wales ar Radio Wales yn awgrymu bod y gost flynyddol i wasanaethau tân Cymru am ddelio gyda thanau gwastraff tua £5miliwn.

Cosbi

Mewn ymdrech i fynd i'r afael a'r broblem, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â Llywodraeth y DU ar ddilyn esiampl yr Alban a chyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig - neu ddirwyon yn y fan a'r lle am y drosedd.

"Rydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â'r gweithgaredd anghyfreithlon yma," meddai Carl Sergeant, gweinidog dros adnoddau naturiol.

Ar hyn o bryd mae taflu sbwriel neu beidio â glanhau baw ci yn gallu cael eu cosbi drwy Hysbysiad Cosb Benodedig.

Ond mae tipio anghyfreithlon yn gorfod mynd gerbron llys - sy'n ei gwneud hi yn broses ddrud ac yn cymryd llawer o amser.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU ar sut i fynd i'r afael a throseddau gwastraff yn para tan 6 Mai.