Carchar Wrecsam: Galw am ei agor gam wrth gam
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai carchar newydd Wrecsam gael ei agor gam wrth gam er mwyn osgoi problemau carchar yn Lloegr, yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol.
Dywedodd aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig fod rhaid i garchar Oakwood ger Wolverhampton, agorodd yn 2012, ddelio â phrotestiadau carcharorion.
Mae'r pwyllgor wedi dweud mai camgymeriad oedd penodi cymaint o staff dibrofiad yn Oakwood.
Dechreuodd gwaith codi'r carchar fis Medi diwethaf.
Gwasanaeth y Carchardai fydd yn rheoli carchar Wrecsam ac ar gost o £212 miliwn a hwn fydd carchar mwyaf Prydain, lle i 2,000 o garcharorion.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David TC Davies: "Fe fydd y carchar newydd yn ateb rhan o'r broblem o orlenwi yng ngharchardai Cymru ond ni fydd y safle yn agor tan yn hwyr yn 2017.
"Ni ddylid peryglu agoriad llwyddiannus drwy roi pwysau ar geisio sicrhau llefydd newydd i garcharorion mor fuan â phosib.
"Os ydym am ddysgu gwersi o'r gorffennol, mae'n rhaid ei agor yn araf ac yn bwyllog."
Casglodd yr adroddiad fod carchardai yng Nghrymu "yn perfformio'n well na'r disgwyl ac yn well na rhai yn Lloegr".
'Problemau difrifol'
Mae'r adroddiad wedi gofyn am gasglu manylion am faint o garcharorion sy'n siarad Cymraeg.
Dywedodd Cen Llwyd o Gymdeithas yr Iaith gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor: "Rydyn ni'n croesawu'r sylw mae'r pwyllgor wedi rhoi i nifer o'r problemau difrifol sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg o fewn carchardai ar hyn o bryd.
"Mae nifer o bryderon gennym am y carchar newydd yn Wrecsam - mae angen i'r staff newydd fydd yn gweithio yno allu darparu eu gwasanaethau i gyd yn Gymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd1 Medi 2014
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2014