Damwain A470: 600 yn angladd merch 17 oed
- Cyhoeddwyd

Mae 600 o alarwyr wedi bod yn angladd un o'r rhai fu farw mewn damwain ffordd ar yr A470 sy'n cael ei gynnal ddydd Gwener.
Roedd angladd Alesha O'Connor, 17 oed, am hanner dydd yn Eglwys Gatholig Santes Helen, Y Barri.
Dywedodd ei mam Sharon yn y gwasanaeth: "Mae ein calonnau ni wedi torri'n llwyr ... fydd ein babi bach ddim gyda ni ac allwn ni ddim dwlu arni."
Bu farw'r pedwar mewn damwain ar yr A470 ger y Storey Arms ym Mannau Brycheiniog ar 6 Mawrth.
Roedd 1,000 o bobl mewn gwasanaeth coffa yn Y Barri yr wythnos diwethaf.
Myfyrwraig
Bydd angladd Rhodri Miller ddydd Sadwrn yn Eglwys Sant Cadog yn Nhregatwg ac angladd Corey Price ddydd Mercher nesaf yn Eglwys y Santes Fair, Y Barri.
Roedd y ddau fachgen yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Morgannwg tra bod Alesha yn fyfyrwraig yng Ngholeg Dewi Sant Caerdydd.
Bu farw Margaret Elizabeth Challis, 68 oed o Ferthyr Tudful, yn y ddamwain yn ogystal.
Mae saith o bobl gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2015