Dedfryd ohiriedig i gyn reolwr archfarchnad Lidl yn y Fferi Isaf
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-reolwr archfarchnad wedi cael dedfryd o garchar am 12 mis wedi ei gohirio am ddwy flynedd ar ôl iddo ddwyn £2,000 oddi wrth ei gyflogwr.
Roedd Gareth Ian Edwards, 31 oed o'r Wyddgrug, yn rheoli archfarchnad Lidl yn Y Fferi Isaf ar Lannau Dyfrdwy a chanddo broblemau ariannol pan benderfynodd ddwyn yr arian y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi gwario £1,900 o'r arian ar gar newydd.
Cafodd y diffynnydd, oedd wedi colli ei swydd, orchymyn i wneud 120 o oriau o waith di-dâl.
Dywedodd y Barnwr David Hale fod pobl yn ymddiried ynddo i ofalu am arian gan mai fe oedd y rheolwr ac yn cael mwy o gyflog na neb arall.
Gwadu
Clywodd y llys fod hwn yn ddigwyddiad ynysig ac nad oedd wedi bod yn anonest o'r blaen.
Dywedodd yr erlynydd David Mainstone ei fod wedi gwadu dwyn yr arian pan gafodd ei holi yn yr orsaf heddlu.
Ar ran yr amddiffyn dywedodd Simon Rogers nad oedd y diffynnydd wedi ceisio beio unrhyw un arall.
Roedd wedi colli ei enw da, meddai, a'i yrfa.