Yr eclips cyntaf ers dros ddegawd
- Cyhoeddwyd
Sioe arallfydol o Gymru
Cafodd ddiffyg ar yr haul, neu eclips, cyntaf yn Ewrop ers dros ddegawd ei weld yng Nghymru fore Gwener tua 09:30.
Credir mai Cymru oedd un o'r llefydd gorau i weld y digwyddiad yn y DU.
Roedd arbenigwyr wedi galw ar i bobl fod yn ofalus, gan na ddylid edrych yn uniongyrchol ar y digwyddiad heb offer arbennig.
Roedd disgwyl i 95% o'r haul gael ei orchuddio.
Bu'r lleuad yn symud yn groes i'r haul gan ddechrau am 08:30, yn rhwystro golau. Roedd yr eclips yn dod i ben am 10:35.
Ffynhonnell y llun, Huw James
Cafodd y llun yma o'r haul ei gymryd ym Mannau Brycheiniog am 09:00
Ble mae o?! Cyflwynydd Taro'r Post, Garry Owen, yn defnyddio mwgwd weldio i wylio'r digwyddiad
Ffynhonnell y llun, Jac Osborne
Fe wnaeth Jac Osborne y collage yma o'r digwyddiad yn Ynys y Barri
Ffynhonnell y llun, Paul Hadley
Cymerodd Paul Hadley y llun yma o Gonwy
Cafodd barti eclips ei gynnal yn Hen Golwyn
Yr eclips o Gaernarfon
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Plant yn defnyddio sbectol arbennig i wylio'r digwyddiad yng Nghaerdydd
Ffynhonnell y llun, Allan Trow
Cafodd y llun yma ei gymryd gan Allan Trow yn ne Cymru
Mae mwy o luniau o'r ffyrdd creadigol roedd pobl yn eu defnyddio i wylio'r eclips yma.