Cymru yn bencampwyr y Chwe Gwlad?

Rhys Webb
Image caption Rhys Webb yn croesi'r gwyngalch, a Chymru o fewn un hanner o rygbi at guro'r hen elyn

"Mae Cymru ar y blaen o 16 i 8 yn erbyn Lloegr. Mae'n edrych yn addawol!"

Dyna fwy neu lai oedd fy ymateb i wedi 40 munud agoriadol y Chwe Gwlad eleni. Yn dilyn drama'r sioe oleuadau, roedd Rhys Webb 'di croesi'r gwyngalch, a Chymru o fewn un hanner o rygbi at guro'r hen elyn.

Rhag ofn i chi gysgu drwy'r Bencampwriaeth eleni, mae'n werth i fi eich atgoffa mai colli oedd hanes tîm Warren Gatland ar y noson honno yng Nghaerdydd. Pob breuddwyd am Gamp Lawn ar chwâl, a phryder y gallai llwy bren ymddangos ar silff ben tân Mr Gatland.

Mi ddylwn i 'di cofio bod y tîm Cymru presennol yn hoff o adeiladu a thyfu yn ystod cystadleuaeth; ac wedi'r siom, fe ddaeth perfformiad a buddugoliaeth digon derbyniol yn Murrayfield.

Cais cofiadwy

Doniau trafod Dan Lydiate a chais cofiadwy Daniel Biggar sy'n dod i'r meddwl wedi'r llwyddiant yn Ffrainc.

Yna fe ddaeth y Gwyddelod i Gaerdydd. 80 munud a 250 tacl yn ddiweddarach, roedd 30 a mwy o chwaraewyr â'u cyrff yn rhacs, ond y rheini mewn coch yn llwyddo i ddefnyddio'r mymryn olaf o egni i godi dwrn buddugoliaethus i'r awyr.

Image copyright WRU
Image caption 'Mae'n amhosib darogan gan fod cymaint o bethau allai ddigwydd,' medd un cefnogwr

Bellach, 'dwi wedi cyrraedd Rhufain, â chyfrifiannell yn dynn yn fy llaw. Ar y penwythnos olaf, ydy, mae'r cyfan yn dibynnu ar wahaniaeth pwyntiau gyda Chymru, Iwerddon a Lloegr yn parhau yn y ras.

Petai ni'n curo, a'r Gwyddelod a'r Saeson yn colli, mi fydd y cochion yn ennill. Mae hynny'n syml. Os fydd naill ai Iwerddon neu Loegr, neu'r ddau yn ennill, wel mi fyddai'r sefyllfa'n cymhlethu.

Mae'n deg dadlau bod Cymru dan anfantais o chwarae gêm gynta'r dydd, heb wybod faint o bwyntiau'n union sydd eu hangen er mwyn codi uwchben y ddau dîm arall.

"Mae'n rhaid gobeithio bod Ffrainc yn curo Lloegr, a bod Iwerddon yn cael buddugoliaeth agos, neu'n colli yn yr Alban. Dyna'n gobaith gorau ni o gipio'r Chwe Gwlad. Mae'n amhosib darogan gan fod cymaint o bethau allai ddigwydd."

Dyma farn Dai Hand sy'n wreiddiol o Aberhonddu. Mae e'n un o'r llu o gefnogwyr sydd 'di teithio mas i Rufain ar gyfer un o'r penwythnosau mwyaf cyffrous yn hanes y Chwe Gwlad.

Image copyright WRU
Image caption Capten Sam yn dringo'r grisiau tuag at yr awyren... a'r bencampwriaeth?

Cymaint yw'r ansicrwydd ynglŷn â chanlyniad y Bencampwriaeth fel bod 'na gwyno dros leoliad y darian ar y dydd Sadwrn olaf. Mae 'na ddwy yn bodoli, gydag un yn Twickenham gyda rhubanau Lloegr yn barod i'w gorchuddio, a'r llall yn Murrayfield rhag ofn mai'r Gwyddelod fydd yn dathlu.

Fydd 'na ddim tarian i'r Cymry felly, petai'r Bencampwriaeth yn dychwelyd i'w dwylo am y trydydd tro mewn pedair blynedd. Tra bod rhai wedi cwyno am hynny, mae eraill yn croesawu'r esgus i gynnal ail barti a seremoni wobrwyo arbennig nôl yng Nghymru.

Dwi ddim yn bwriadu drysu'r sefyllfa gan godi'r ffaith bod gan Ffrainc lygedyn o obaith o ennill hefyd. Yn hytrach, 'dw i am gloi wrth gofio nôl i'r sylw hwnnw wedi hanner cyntaf gêm agoriadol y gystadleuaeth.

"Mae Cymru ar y blaen yn erbyn Lloegr o 16 i 8. Mae'n edrych yn addawol!"

O am ail-hanner gwell ar y noson siomedig honno yng Nghaerdydd. Mi fyddai'r cefnogwyr yn edrych ymlaen at Gamp Lawn, a neb yn poeni dim am unrhyw mathemateg.

Fe fydd Iwan Griffiths yn gohebu o Rufain ar gyfer rhaglen Newyddion 9, S4C.