Dim diffyg dychymyg

  • Cyhoeddwyd

Fore Gwener 20 Mawrth am tua 09:30 roedd nifer o bobl mas yn edrych tuag at yr awyr neu'n dal blychau esgidiau yn ceisio profi'r diffyg cyntaf ar y haul ers 16 mlynedd.

Aled Scourfield, gohebydd y BBC yn y Gorllewin yn defnyddio'i offer mewn ffordd adeiladol heddiw
Disgrifiad o’r llun,
Aled Scourfield, gohebydd y BBC yn y Gorllewin yn defnyddio'i offer mewn ffordd adeiladol heddiw
Disgrifiad o’r llun,
Disgyblion Ysgol Bro Gwaun yn dangos y gwahanol ffyrdd o wylio'r diffyg
Disgrifiad o’r llun,
Diolch byth fod to'r orsaf drenau ym Mhort Talbot mor frwnt!
Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r pobl hyn tu fas i Brifysgol Aberystwyth yn 'gwbod eu stwff!'
Ffynhonnell y llun, Charlotte Dubenskij
Disgrifiad o’r llun,
Llun Charlotte Dubenskij o'r diffyg yn dechrau yn Aberhonddu
Disgrifiad o’r llun,
Dwy fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd yn cymryd persbecif newydd ar y broblem o sut i wylio'r diffyg, gyda masgiau weldio
Disgrifiad o’r llun,
Garry Owen, cyflwynydd Taro'r Post ar Radio Cymru yn dilyn esiampl yr uchod
Disgrifiad o’r llun,
Yr olygfa o'r diffyg wnaeth y mwyafrif ohonon ni ei mwynhau