Cymry Coleg yr Iesu

  • Cyhoeddwyd
Coleg yr Iesu, Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,
Coleg yr Iesu, Rhydychen

Ar 24 Mawrth mae cynhadledd y cael ei chynnal yn Abertawe i geisio denu rhagor o fyfyrwyr o Gymru i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ond wyddoch chi mai Cymro sefydlodd un o'r colegau enwocaf - Coleg yr Iesu, Rhydychen?

Roedd Hugh Price yn glerigwr a chyfreithiwr o Aberhonddu, a perswadiodd y Frenhines Elisabeth I i roi siarter brenhinol i'r sefydliad yn 1571. Mi gyfrannodd y Cymro hefyd yn ariannol at y gwaith adeiladu. Er na welodd yr adeiladau gorffenedig, mi barhaodd y cysylltiad Cymreig wedi ei farwolaeth.

Cryfhau'r cysylltiadau Cymreig

Rhwng 1571 a 1915 roedd pob un o brifathrawon Coleg yr Iesu, ag eithrio un, yn Gymry, am 300 mlynedd roedd y rhan fwyaf o gymrodorion y Coleg yn Gymry, ac ar droad y G17 roedd y myfyrwyr bron yn gyfangwbl Gymraeg.

Roedd Coleg yr Iesu yn rhoi cyfleoedd i Gymry disglair, yn aml o gefndiroedd cyffredin a thlawd, drwy gynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau, nifer ohonyn nhw'n canolbwyntio ar ardaloedd penodol o Gymru.

Hyd at 1859 roedd statudau'r Coleg yn neilltuo bron y cyfan o'r ysgoloriaethau a chymrodoriaethau i'r Cymry.

Comisiwn Brenhinol

Parhaodd y dylanwad Cymreig tan y G19 pan roedd 'na bryderon bod safonau'r coleg yn dirywio. Cafodd Comisiwn Brenhinol ei sefydlu yn 1882 i edrych yn fanylach ar y problemau.

Awgrymodd hwnnw y dylai'r holl gymrodoriaethau oedd wedi'u neilltuo i Gymry gael eu cynnig yn agored i bawb. Ar ôl hynny dim ond dwsin o ysgoloriaethau penodol oedd ar gael i'r Cymry. Daeth y drefn o gynnig ysgoloriaethau ar sail ardaloedd penodol i ben hefyd.

Wedi'r newidiadau, cododd y safonau academaidd ac roedd 'na gynnydd yn nifer y myfyrwyr. Ond, gostwng yn sylweddol wnaeth y ganran ddaeth yno i astudio o Gymru ac erbyn 1914, dim ond hanner y myfyrwyr oedd yn Gymry.

Erbyn heddiw, mae'r ganran wedi dirywio ymhellach i tua 14%, ond mae hyn dal yn cymharu'n ffafriol pan ystyriwch fod Cymry'n cynrychioli dim ond 5% o boblogaeth Prydain!

Cymry blaenllaw

Disgrifiad o’r llun,
Y milwr a'r awdur TE Lawrence, neu 'Lawrence of Arabia' , un o'r Cymry amlwg i'w haddysgu yng Ngholeg yr Iesu

Ymhlith y Cymry blaenllaw gafodd eu haddysg yno roedd Thomas Charles, cyn iddo fynd yn weinidog yn Y Bala a helpu Mari Jones i brynu ei Beibl.

Mae nifer o lenorion amlwg ymhlith y cyn-fyfyrwyr gan gynnwys Syr TH Parry-Williams, DJ Williams, T Rowland Hughes a WJ Gruffydd.

Yn y cyfnod diweddar bu'r darlledwyr Betsan Powys, Siân Lloyd a'r gantores Gwyneth Glyn yn fyfyrwyr yno yn ogystâl â chyn-bennaeth BBC Cymru, Geraint Talfan Davies.

Cadw'r traddodiad Cymreig

Does dim gwadu bod y dylanwadau Cymreig wedi lleihau dros y blynyddoedd, ond mae'r cysylltiadau ffurfiol yn parhau yn ogystal â thraddodiadau eraill sydd yn cadw'r dylanwad yn fyw.

Er enghraifft, mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu'n flynyddol yno trwy gynnal gwasanaeth Cymraeg yn y capel sydd wedi ei arddurno â chennin pedr ar gyfer yr achlysur.

Yn y cinio Gŵyl Dewi, mae myfyrwyr ac aelodau o gymdeithasau Cymraeg eraill Rhydychen yn gwledda ar gig oen, cawl cennin a phwdin Watkin Williams Wynn, sydd wedi ei enwi ar ôl y tirfeddiannwr enwog o ogledd Cymru.

'Sgwn i faint o Gymry ifanc disglair y dyfodol fydd yn cadw gweledigaeth Hugh Price ynghyn a chadw'r traddodiad Cymreig yn fyw yn un o golegau enwocaf y byd?

Disgrifiad o’r llun,
Dathlu Cymreictod yng Ngholeg yr Iesu