Angladd Rhodri Miller wedi gwrthdrawiad A470 Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Bu farw Rhodri Miller (canol) a'i ffrindiau Alesha O'Connor a Corey Price yn y digwyddiad
Bydd angladd bachgen fu farw mewn gwrthdrawiad car laddodd dau o'i ffrindiau a dynes arall yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn.
Mae gwasanaeth ar gyfer Rhodri Miller, 17, yn Eglwys Sant Cadoc, Tregatwg, Bro Morgannwg, am hanner dydd.
Roedd cannoedd o bobl yn angladd Alesha O'Connor, 17, ddydd Gwener, a bydd gwasanaeth Corey Price, 17, yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.
Margaret Elizabeth Challis, 68, oedd y pedwerydd i farw yn y ddamwain ar yr A470 ger Aberhonddu.
Roedd tua 1,000 o bobl mewn gwasanaeth coffa i'r pedwar yn y Barri'r wythnos diwethaf.
Mae saith o bobl yn eu harddegau gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Ffynhonnell y llun, Dyfed-Powys Police
Dywedodd teulu Margaret Challis ei bod hi wedi mynd "mas un noson a byth dod yn ôl"