Carchar i ddyn am geisio llofruddio ei bartner

  • Cyhoeddwyd
Nigel Roach
Disgrifiad o’r llun,
Fe geisiodd Nigel Roach lofruddio ei bartner o 16 mlynedd

Mae dyn wedi ei garcharu am oes am geisio llofruddio ei bartner yng Nghaerdydd.

Fe dorrodd Nigel Roach, 49 oed, i mewn i gartref Christine Lewis yn Llanrhymni fis Awst diwethaf a cheisio ei thrywanu gyda dwy gyllell, cyn iddo gael ei ddiarfogi gan yr heddlu.

Dywedodd Ms Lewis, 48 oed, wrth Lys y Goron Caerdydd: "Roeddwn yn meddwl ei fod yn mynd i fy lladd."

Wrth siarad ar ôl yr achos, dywedodd yr heddlu fod Ms Lewis bod drwy gyfnod o "ddioddefaint gwirioneddol ofnadwy".

Clywodd y llys fod Roach wedi ceisio llofruddio ei bartner o 16 mlynedd, ar ôl gweld negeseuon testun gan gydweithiwr gwrywaidd.

Cafodd Ms Lewis anafiadau i'w hysgwydd, ei braich, ei brest a'i dwylo yn ystod yr ymosodiad.

Dywedodd Roach wrth y rheithgor mai'r unig beth oedd yn ceisio ei wneud, oedd "dangos rhywfaint o boen" i Ms Lewis, ac nid oedd ganddo unrhyw fwriad i'w lladd hi.

Bydd Roach yn y carchar am o leiaf wyth mlynedd a hanner.

Ar ôl yr achos, dywedodd y Ditectif Rhingyll Chris Grey o Heddlu De Cymru: "Mae Christine yn fenyw hynod ddewr ac wedi mynd trwy gyfnod o ddioddefaint gwirioneddol ofnadwy.

"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfrydu heddiw yn dod â rhyw fath o derfyn ar gyfnod anodd iddi hi a'i theulu."