Aston Villa 0-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Abertawe yn symud i'r wythfed safle gyda 43 pwynt
Fe wnaeth gol hwyr Bafetimbi Gomis sicrhau buddugoliaeth i Abertawe yn Villa Park.
Cyn iddo sgorio roedd Gomis wedi cael dau ymdrech arall ar y gôl, dim ond iddo gael ei rwystro gan y golgidwad Brad Guzan.
Daeth Wayne Routledge hefyd yn agos, ei ymdrech yn cael ei glirio ar y llinell gol.
Sgoriodd Gomis gyda dim ond tri munud yn weddill.
Manteisiodd ar bas Jefferson Montero i ergydio o 12 llath.
Daeth Scott Sinclair yn agos cyn diwedd y gêm i Villa.