Dyn 87 mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 87 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad gyda thacsi yng Nghaerdydd.
Dywed Heddlu De Cymru fod Volkswagen Transporter du wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda'r dyn tua 15:45 ar Ffordd Ferry, ddydd Gwener.
Aed â'r dyn i'r Ysbyty Athrofaol.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu a'r heddlu ar 101.