Cytundeb ar ddadleuon teledu
- Cyhoeddwyd
Dywed darlledwyr y DU fod yna gytundeb terfynol ynglŷn â dadleuon teledu etholiadol.
Fe fydd y prif weinidog David Cameron yn cymryd rhan mewn un drafodaeth rhwng arweinwyr saith o bleidiau gwleidyddol.
Ni fydd yna drafodaeth gyda dim ond Mr Cameron ac Ed Miliband, yr arweinydd Llafur, yn cymryd rhan.
Fe fydd y drafodaeth fyw rhwng arweinyddion saith o'r pleidiau yn cael ei gynnal ar ITV ar 2 Ebrill.
Fe fydd trafodaeth ar 16 Ebrill ar y BBC yn cynnwys arweinwyr pump o'r gwrthbleidiau.
Trafodaethau
Fe fydd Mr Cameron a Mr Miliband yn ymddangos ar wahân mewn sesiwn cwestiwn ac ateb, i'w ddarlledu ar Channel 4 a Sky News
Dywed y BBC, ITV, Sky a Channel 4 fod y cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau gyda'r pleidiau.
Fe fydd y drafodaeth rhwng arweinyddion y gwrthbleidiau yn cael ei gadeirio gan David Dimbleby.
Bydd yn cynnwys arweinwyr Llafur, Plaid Cymru, UKIP, yr SNP a'r Gwyrddion,
Dywed y BBC y byddant yn sicrhau cynrychiolaeth deg i bleidiau Gogledd Iwerddon, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Hefyd dywed y BBC y bydd yna rifyn y arbennig o'r rhaglen Question Time yn cael ei darlledu wythnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Fe fydd Mr Cameron, Mr Miliband a Nick Clegg, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ymddangos ar wahân er mwyn ateb cwestiynau o'r gynulleidfa.
Dylanwad
Ond mae'r gwrthbleidiau yn dweud fod Downing Steet wedi cael gormod o ddylanwad ar ffurf y dadleuon.
Dywedodd Mr Miliband: "Mae David Cameron nawr mewn sefyllfa anghredadwy, fe fydd o'n mynd i'r un stiwdio a fi, ar yr un noson, gyda'r un gynulleidfa - ond mae'n gwrthod mynd wyneb yn wyneb oherwydd ei fod o ofn."
Dywedodd ffynhonnell o'r blaid Geidwadol wrth wasanaeth newyddion y Press Association: "Os unrhyw beth mae hyn yn well na'r hyn gafodd ei gynnig i ni yr wythnos diwethaf. Mae'r prif weinidog wedi credu erioed y byddai gormod o ddadleuon teledu yn diflasu'r ymgyrch."
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rydym wedi dweud wrth y darlledwyr y byddwn yn cymryd rhan ....a hynny er gwaetha ein gwrthwynebiad cryf o gael ein heithrio o unrhyw ddadl deledu neu gyfweliad. "
Roedd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn croesawu'r cyhoeddiad gan y darlledwyr ond gan ddweud nad oedd mor bwerus â'r hyn roedd y darlledwyr am ei gael yn wreiddiol.
"Mae yna alw am drafodaethau o'r fath, oherwydd bod pobl am glywed gan bleidiau a all ffurfio Llywodraeth nesa'r DU."
Yn ôl arweinydd UKIP Nigel Farage, roedd y sefyllfa yn "ffars lwyr."
Dywedodd fod yna gywilydd ar y darlledwyr.
Dywed yr SNP eu bod nhw'n ffafrio'r cynlluniau gwreiddiol tra bod y Blaid Werdd yn dweud bod ystyfnigrwydd David Cameron wedi golygu oedi'r holl broses.