BBC Cymru Fyw

Gwasanaeth i gofio am Cameron Comey yng Nghaerfyrddin

Published
image captionFe wnaeth Cameron Comey ddiflannu ar 17 Chwefror

Cafodd gwylnos ei chynnal yng Nghaerfyrddin nos Sul ar gyfer Cameron Comey.

Diflannodd y bachgen 11 oed ar ôl bod yn chwarae gyda'i frawd ger Afon Tywi ar 17 Chwefror.

Roedd y gwasanaeth nos Sul ar Bont King Morgan am 19:30 wedi ei drefnu gan eglwysi ac enwadau'r dref.

Cafodd gwylnos debyg ei chynnal bedair wythnos yn ôl yn dilyn ei ddiflaniad, gyda channoedd o bobl yn dangos eu cefnogaeth i deulu Cameron.

Yn ystod y wylnos cafodd rhuban glas ei roi ar y bont fel symbol o gefnogaeth y gymuned leol i'r teulu.

image captionCafodd rhuban glas ei osod ar y bont
image captionCafodd gwylnos ei chynnal nos Sul

Straeon perthnasol

  • Israddio'r ymgyrch chwilio am Cameron Comey