Arian loteri i nodi cyfraniad sefydlwyr y Wladfa
- Cyhoeddwyd

Fe fydd £1 miliwn o arian loteri yn cael ei ddefnyddio i sefydlu canolfan fydd yn nodi'r achlysur 150 o flynyddoedd yn ôl pan ymfudodd pobl o Gymru i'r Wladfa.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar ganolfan treftadaeth y tu mewn i Eglwys Deiniol Sant, Llanuwchllyn, ger Y Bala, Gwynedd.
Bydd yr eglwys, adeilad rhestredig II, sydd wedi ei chau er 2006, yn cael ei hadfer ar gyfer defnydd y gymuned leol.
Fe fydd yna le ar gyfer arddangosfa fydd yn cofio am gyfraniad trigolion lleol gan gynnwys Michael D Jones, un o sefydlwyr y Wladfa yn 1865.
Bydd prosiect Cylch y Llan yn adrodd pwysigrwydd Llanuwchllyn o safbwynt y Gymraeg a diwylliant Cymru.
Bydd hefyd yn sôn am daith 153 o bobl o Gymru wnaeth hwylio o Lerpwl i'r Ariannin ar y Mimosa.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cyfrannu £1,032,700 i'r prosiect.
Bydd y safle hefyd yn cynnwys byncws 12 gwely ar gyfer beicwyr ac yn cysylltu'r pentref gyda'r rhwydwaith beicio cenedlaethol.
Dywedodd Dafydd Ellis-Thomas, AC Dwyfor Meirionnydd: "Dwi wrth fy modd gweld buddsoddiad pellach gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn yr ardal.
"Rydym eisoes wedi gweld buddsoddiad yn Yr Ysgwrn ac adfywio Dolgellau yn y flwyddyn ddiwethaf a bydd y prosiect hwn yn atgyfnerthu ymhellach y dreftadaeth gyfoethog sydd gennym sydd o bwys arbennig eleni wrth i ni nodi sefydlu'r Wladfa."