Yr heddlu yn ymchwilio i honiadau o gam-drin hanesyddol
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad gan yr heddlu i achosion hanesyddol o gam-drin plant wedi clywed honiadau yn ymwneud â dau cyn aelod seneddol o Gymru sydd bellach wedi marw.
Mae'r BBC yn deall bod Heddlu De Cymru wedi derbyn gwybodaeth am Leo Abse, cyn aelod seneddol Pont-y-pŵl, a George Thomas, cyn Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.
Dywed Heddlu'r De eu bod wedi trosglwyddo'r wybodaeth i lu arall, er mwyn iddynt hwy gynnal ymchwiliad.
Bu farw Mr Abse, ymgyrchydd dros hawliau pobl hoyw, yn 2008, yn 91 oed.
Mae papur newydd y Sunday Times yn dweud fod honiadau newydd wedi eu hanfon i'r heddlu sy'n ymchwilio i "rwydwaith honedig" o wleidyddion.
Dywed y papur fod arolwg gan Eglwys Lloegr o gam-drin hanesyddol wedi arwain at enw Mr Abse yn cael ei anfon i'r heddlu sy'n arwain Ymgyrch Fernbridge.
Ymgyrch Fernbridge yw ymchwiliad gan Heddlu'r Met i gam-drin honedig sy'n gysylltiedig â gwleidyddion blaenllaw.
Y llynedd fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau bod ditectifs yn ymchwilio i honiadau yn erbyn Mr Thomas, yn dyddio nol i'r 1960au a'r 70au.
Fe ddywedodd dioddefwr honedig, sydd nawr yn byw yn Awstralia, wrth bapur newydd y Mirror, ei fod wedi gael ei dreisio gan Mr Thomas.
Roedd Is Iarll Tonypandy, pregethwr lleyg, yn Ysgrifennydd Cymru rhwng1968 a 1960, ac yn llefarydd Ty'r Cyffredin rhwng 1976 a 1983
Bu farw o ganser yn 1997, yn 88 oed.