Tân Abertawe: Heddlu'n symud corff o dŷ

  • Cyhoeddwyd
Tân Llangwm

Mae'r heddlu wedi symud corff o dŷ yn Abertawe wedi tân yn oriau man y bore.

Yn gynharach, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn credu bod person wedi marw yn y tŷ, ond nad oedden nhw'n gallu canfod y corff oherwydd bod y tŷ yn rhy beryglus.

Mae'r person sydd wedi marw wedi'i henwi'n lleol fel Linda Merron.

Fe wnaeth y tân gychwyn am tua hanner nos yn y tŷ ar stad Llangwm, ger Penplas, ym Mhenlan.

Cafodd dyn a dynes eu cludo i Ysbyty Treforys yn dioddef o losgiadau ac effaith mwg.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Credir bod y trydydd person yn y tŷ wedi marw."

Mae achos y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd gan yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd cymdoges, Gina Norwood, bod y ddynes oedd yn byw yn y tŷ wedi symud i'r ardal ar ôl i'w merch fynd i'r brifysgol.

"Roedd hi wrth ei bodd hefo'i hanifeiliaid, ei chŵn - roedd hi'n ddynes hyfryd," meddai.

"Roedd ganddi amser i bawb, i ddweud helo wrth bob un o'i chymdogion.

"Fe wnaeth fy mab fy neffro yn sgrechian arna i i adael y tŷ. Fe wnes i edrych drwy'r ffenest a ro'n i'n meddwl bod y fflat ar dan.

"Daeth fy mab allan i'r ffrynt ac roedd o i gyd yn chwythu allan, y fflamau."