Rhyw gyda bachgen ysgol: Dedfrydu dynes
- Published
image copyrightWales News Service
Mae mam briod gyfaddefodd ei bod wedi cael rhyw gyda bachgen ysgol wedi derbyn dedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi'i gohirio.
Mi wnaeth Kelly Richards, 36 oed, gyfaddef cael rhyw gyda bachgen 15 oed rhwng Hydref a Rhagfyr 2012.
Roedd Richards o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, wedi pledio'n euog yn gynharach yn y mis i weithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful derbyniodd Richards y ddedfryd ynghyd â gorchymyn atal troseddau rhyw.