Dyn 68 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad Ceredigion
- Published
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A4519 yng Ngheredigion.
Bu farw David England, oedd yn 68 oed o Landre ger Aberystwyth, yn y gwrthdrawiad rhwng Capel Dewi a Lovesgrove ddydd Iau, 19 Mawrth.
Roedd Mr England yn gyrru Peugeot glas wnaeth daro Vauxhall arian am tua 14:30, a bu farw yn yr ysbyty.
Mae dwy ddynes yn parhau i fod yn yr ysbyty wedi'r gwrthdrawiad.