Caniatad i godi gorsaf Biomas yn Nhrecwn, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio'n unfrydol i gymeradwyo cynllun i godi gorsaf Biomas yn Nhrecwn ger Abergwaun.
Fe allai 45 o swyddi parhaol gael eu creu yn sgil y cynllun ar hen safle'r Llynges Frenhinol, ble mae'r perchnogion - The Valley (Pembrokeshire) Ltd - yn bwriadu codi gorsaf i losgi pren allai gynhyrchu 25MW o drydan.
Yn ôl y cwmni, y bwriad yw defnyddio gwastraff o goedwigaeth a melinau coed, ynghyd â phren wedi ei ailgylchu fel tanwydd.
Fe fyddai 250 o swyddi adeiladu yn cael eu creu yn sgil y cynllun yn ogystal.
Byddai'r tanwydd yn cael ei gludo i'r safle ar hyd y ffyrdd lleol, a'r gred yw y bydd hyd at 53 o loriau yn teithio i Drecwn bob dydd.
Mae disgwyl y byddai'n cymryd dwy flynedd a hanner i'w gwblhau.
445 hectar
Ar un adeg, roedd 500 o bobl yn gweithio ar y safle pan oedd yn cael ei defnyddio fel storfa ffrwydron, ac roedd yn un o'r safleoedd milwrol mwyaf dirgel yn Ewrop. Fe adeiladwyd Trecwn ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.
Mae'r safle anferth yn 445 hectar mewn maint, ac mae'n cynnwys rhyw 58 o dwneli tanddaearol sy'n ymestyn i berfeddion ochrau'r Dyffryn. Fe gaeodd y safle ym 1995.
Cafodd cynlluniau dadleuol gan y cyn-berchnogion - Omega Pacific - i gadw gwastraff niwclear yn Nhrecwn eu gwrthod ar ôl ymgyrch gan bobl leol.
Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell caniatáu'r datblygiad er gwaetha beirniadaeth gan fudiad Cyfeillion y Ddaear yn Sir Benfro, oedd wedi disgrifio'r orsaf newydd fel un "aneffeithiol".
Roedd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi mynegi pryder am effaith llygredd ar yr ardal.