Rhodri Morgan: Trafod clymblaid wedi 'arwain at drawiad'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan wedi cyfaddef y gallai trafodaethau clymbleidiol gyda Phlaid Cymru fod wedi bod yn "angheuol" iddo.
Dywedodd Mr Morgan wrth y BBC bod y straen a'r ansicrwydd dros ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2007 wedi arwain at iddo ddioddef trawiad ar y galon 48 awr ar ôl i'w blaid gytuno i'r cytundeb hanesyddol.
Mewn adroddiad newydd ar glymbleidiau, dywedid Mr Morgan bod cytundebau sefydlog yn dibynnu ar gefnogaeth aelodau eraill o'r blaid.
Ei gyngor i arweinwyr yw i "gymryd eich amser".
Mae'r adroddiad - Gweithio Gyda'n Gilydd - wedi cael ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol wrth i bolau awgrymu senedd grog arall ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
'Problemau gastrig'
Yn yr adroddiad, dywed Mr Morgan bod clymbleidiau llwyddiannus angen cefnogaeth cynhadledd arbennig i roi sêl bendith ar unrhyw gytundeb clymblaid.
Ym mis Gorffennaf 2007 pleidleisiodd aelodau Llafur a Plaid Cymru i gymeradwyo cytundeb clymbleidiol rhwng y pleidiau mewn cynadleddau arbennig ar ôl bron i ddau fis o drafodaethau.
Ar y pryd, dywedwyd mai oherwydd "problemau gastrig" oedd Mr Morgan yn yr ysbyty ar ôl y cytundeb clymbleidiol yn 2007.
Dywed Mr Morgan bod unrhyw lywodraeth glymbleidiol sefydlog wedi ei selio ar drafodaethau helaeth rhwng pleidiau - ond yn hollbwysig, nid rhwng arweinwyr y pleidiau.
"Yn bwysicaf, wnes i na Ieuan Wyn Jones - yr arweinwyr - ysgrifennu'r ddogfen," meddai Mr Morgan.
"Fe wnaethon ni ei gymeradwyo o bryd i bryd wrth iddo ddod yn ôl aton ni, ond mae'n rhaid i'r trafodaethau gael eu gwneud gan bobl eraill."