'Cynllun B' yn cael ei ystyried i newidiadau Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion iechyd yn ystyried cynllun gwahanol ar ôl i blaniau gwreiddiol i roi diwedd ar wasanaethau gofal mamolaeth ymgynghorol mewn ysbyty yng ngogledd Cymru ddenu beirniadaeth.
Mae gwleidyddwyr lleol ac arbenigwyr iechyd wedi dyfeisio "Cynllun B" i gadw gwasanaethau doctoriaid yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau ei fod yn ystyried y cynlluniau.
Dwy wythnos yn ol, mynychodd 350 o bobl gyfarfod gyda swyddogion iechyd i leisio eu pryderon.
Cafodd ei drefnu gan ACau lleol, Darren Millar ac Ann Jones, sydd bellach wedi cael cyfarfod arall gydag ymgynghorwyr a swyddogion meddygol y bwrdd iechyd i lunio cynllun diwygiedig.
Byddai cynllun gwreiddiol y bwrdd iechyd wedi gweld staff yn symud i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam o 6 Ebrill.
Dywedodd bod y mesur dros-dro oherwydd problemau staffio, a byddai'r gwasanaethau yn dychwelyd i Glan Clwyd o fewn 18 mis.
Ond nos Lun cadarnhaodd bod cynllun gwahanol yn cael ei ystyried.