Helynt yng nghyfarfod cyhoeddus UKIP ym Mhorthmadog
- Cyhoeddwyd

Cafodd plismyn eu galw i gyfarfod cyhoeddus UKIP ym Mhorthmadog nos Lun wedi dadl rhwng aelod o'r blaid a dau aelod o'r cyhoedd.
Roedd is-arweinydd UKIP Paul Nuttall yn ymweld â gwesty'r Royal Sportsman yn y dref ble roedd trafodaeth am ddiweithdra pobl ifanc.
Dechreuodd Mr Nuttall gael ei heclo gan ddau berson oedd wedi'u cythruddo gan nad oedd darpariaeth ar gael i ofyn cwestiynau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfarfod.
Honnodd yr ymgyrchwr iaith Dr Simon Brooks mai dyma'r tro cyntaf i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynnal yn uniaith Saesneg yn y dref.
'Gwarth'
"Mae'r ffaith nad oes dim cyfleusterau cyfieithu, dim taflenni Cymraeg, dim cynrychiolwyr sy'n siarad Cymraeg - yn y dref yma ble mae'r mwyafrif o bobl yn siarad Cymraeg - yn warth," meddai Mr Brooks.
Mewn cyfnewid swnllyd dywedodd Mr Nuttall wrth y ddau brotestiwr eu bod yno i gau'r cyfarfod i lawr, a'u bod yn "elynion i ryddid barn ac yn wrth-ddemocrataidd".
"Rydym ni yn un wlad, mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn siarad Saesneg, os yw pobl yn dod yma dylen nhw ddysgu Saesneg," meddai Mr Nuttall.
Dywedodd Dr Brooks ac ail berson, Richard Roberts, eu bod yn mynychu'r cyfarfod fel trigolion Porthmadog.
Yn dilyn trafodaeth am alw'r heddlu, gadawodd y ddau'r gwesty. Cyrhaeddodd dau o swyddogion yr heddlu, ond gadawon nhw bron ar unwaith.
Wedi'r digwyddiad, dywedodd rheolwr marchnata'r Royal Sportsman nad oedden nhw eisiau cael eu tynnu mewn i ffrae wleidyddol a'u bod wedi cael cais gan y trefnwyr i alw'r heddlu.
Meddai Mr Spindley: "Does gan y gwesty ddim tueddiadau gwleidyddol penodol ac fe dderbynion ni gais UKIP yn ddiffuant. Mae'r gwesty wedi cynnal digwyddiadau Plaid Cymru, yn ogystal â grwpiau eraill cymunedol, am ddim yn y gorffennol."