Damwain awyren Airbus: Tri o Brydain wedi marw

Published
image captionMae Germanwings yn is-gwmni o Lufthansa, cwmni awyr o'r Almaen

Mae'r Gweinidog Tramor, Philip Hammond wedi cadarnhau bod o leiaf tri o Brydain wedi eu lladd ar ôl i awyren Airbus A320 ddisgyn i'r ddaear yn yr Alpau Ffrengig rhwng Barcelonnette a Digne ddydd Mawrth.

Yn ôl Gweinyddiaeth Drafnidiaeth Ffrainc, nid oes goroeswyr i'r ddamwain.

Roedd awyren yn perthyn i gwmni hedfan o'r Almaen, Germanwings, sy'n is-gwmni o Lufthansa.

Roedd yr awyren ar ei ffordd o Barcelona i Dusseldorf, gyda 142 o deithwyr a chwe aelod o griw.

Pobl o Brydain

Dywedodd Philip Hammond AS fod yr awdurdodau eisoes wedi cysylltu â theuluoedd y rhai o'r DU sydd wedi eu lladd.

"Ar hyn o bryd rydym yn credu bod tri o bobl o Brydain wedi cael eu lladd yn y drychineb, ond ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd bod rhagor o bobl o Brydain ar fwrdd yr awyren.

"Rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ac unwaith y bydd gennym ddarlun cliriach, byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach."

image captionMae adenydd awyrenau A320 Airbus yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri ym Mrychdyn

Mae swyddogion yn dweud bod recordydd llais a rhan o focs du'r awyren wedi cyrraedd ym Mharis ar gyfer ei ymchwilio.

Ddydd Mawrth, dywedodd Arlywydd Ffrainc Francois Hollande: "Nid oes eglurhad dros amgylchiadau'r ddamwain eto, rydym yn meddwl nad oes unrhyw oroeswyr."

Dywedodd Mr Hollande bod y ddamwain yn drasiedi gan alw am undod mewn amgylchiadau anodd.

Mae adenydd awyrenau A320 Airbus yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri ym Mrychdyn.