Ysbyty Glan Clwyd: Gohirio newidiadau am gyfnod byr
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion iechyd wedi penderfynu gohirio cyflwyno newidiadau i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd am gyfnod byr, wedi iddyn nhw dderbyn cynllun gwahanol.
Roedd y cynlluniau gwreiddiol i roi'r gorau i wasanaethau gofal mamolaeth ymgynghorol ym Modelwyddan wedi denu beirniadaeth.
Mae gwleidyddion lleol ac arbenigwyr iechyd wedi dyfeisio "Cynllun B" i gadw gwasanaethau meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau eu bod yn ystyried y cynlluniau.
Dywedodd Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn croesawu'r cynllun sydd wedi'i gyflwyno gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cynlluniau, gan ohirio cyflwyno unrhyw newidiadau dros dro i'r gwasanaeth am hyd at bythefnos, tan bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.
"Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod ni'n rhoi gwybod i bawb am y sefyllfa ac rydym yn bwriadu parhau gyda'r sesiynau galw heibio i'r cyhoedd am y bythefnos nesaf."
350 o bobl
Dwy wythnos yn ôl, mynychodd 350 o bobl gyfarfod gyda swyddogion iechyd i leisio eu pryderon.
Cafodd ei drefnu gan ACau lleol, Darren Millar ac Ann Jones, sydd bellach wedi cael cyfarfod arall gydag ymgynghorwyr a swyddogion meddygol y bwrdd iechyd i lunio cynllun diwygiedig.
Byddai cynllun gwreiddiol y bwrdd iechyd wedi gweld staff yn symud i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam o 6 Ebrill.
Dywedodd bod y mesur dros-dro oherwydd problemau staffio, a byddai'r gwasanaethau yn dychwelyd i Glan Clwyd o fewn 18 mis.
Straeon perthnasol
- 23 Mawrth 2015
- 18 Mawrth 2015
- 12 Mawrth 2015
- 21 Chwefror 2015
- 20 Chwefror 2015
- 11 Chwefror 2015