Cwrs Hanner Marathon Casnewydd yn rhy fyr

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon CasnewyddFfynhonnell y llun, City of Newport Half Marathon

Mae cadarnhad wedi dod bod cwrs Hanner Marathon Casnewydd eleni yn rhy fyr, a hynny o 636 medr yn llai na'r 13.1 milltir angenrheidiol.

Mi wnaeth Phil Cook, o Gymdeithas Mesurwyr Cyrsiau'r DU, ail-fesur y cwrs wedi i rai rhedwyr gwestiynu'r hyd.

Ni allai Mr Cook nodi ble yn union roedd camgymeriad wedi'i wneud gan y trefnwyr wrth fesur y cwrs.

Dywedodd: "Yn amlwg nid yw hyn yn effeithio ar y bobl oedd yn rhedeg i gasglu arian i achosion da. Ond os oedd pobl yn rhedeg er mwyn cael amser swyddogol, yn anffodus nid ydyn nhw wedi derbyn amser o'r fath."

Roedd y digwyddiad, gafodd ei gynnal ar ddydd Sul, 1 Mawrth, wedi'i feirniadu gan rai rhedwyr wedi iddyn nhw sylweddoli bod eu hamser yn gyflymach na'r disgwyl.

Wedi i'r pryderon gael eu codi, dywedodd Hosbis Dewi Sant, sy'n trefnu'r ras, eu bod yn credu bod hyd y cwrs yn gywir.

Dywedodd y prif weithredwr, Emma Saysell: "Cafodd y cwrs ei fesur gan weithiwr wedi'i achredu. Roedd hyd y cwrs yn gywir ar sail beth ddywedodd wrthym ni."