Llofruddio babi: Dewis rheithgor
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor wedi cael ei ddewis yn yr achos yn erbyn dyn o Gwmbrân sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei wyres.
Bu farw Amelia Rose Jones, oedd yn chwe wythnos oed, ym mis Tachwedd 2012, dau ddiwrnod ar ôl i'r heddlu cael eu galw i gartref ym Mhontnewydd, de Cymru, yn dilyn pryderon am ei hiechyd.
Mae Mark Jones, 45 oed o Gwmbrân, wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth.
Mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron Casnewydd barhau tan ddiwedd mis Ebrill.